Jack Abramoff | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1959, 28 Chwefror 1958 Atlantic City |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm, cyfreithiwr, lobïwr, sgriptiwr ffilm |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Gwefan | https://abramoff.com/ |
Cyn-lobïwr o'r Unol Daleithiau sydd bellach yn ymgyrchydd yn erbyn lobïo yw Jack Allan Abramoff (/ˈeɪbrəmɒf/; ganwyd 28 Chwefror 1959) a fu hefyd yn gweithio fel dyn busnes, cynhyrchydd ffilmiau, ac awdur.[1][2] Ef oedd y ffigwr canolog mewn ymchwiliad i lygredigaeth wleidyddol ar raddfa eang, ac o ganlyniad cafodd Abramoff a 21 o unigolion eraill eu canfod yn euog, gan gynnwys swyddogion y Tŷ Gwyn J. Steven Griles a David Safavian, y Cynrychiolydd Bob Ney, a naw o lobiwyr eraill a chynorthwywyr cyngresol.
Abramoff oedd cadeirydd cenedlaethol Pwyllgor Colegol y Blaid Weriniaethol o 1981 hyd 1985, un o'r aelodau a sefydlodd yr International Freedom Foundation (a honnir ei fod yn derbyn cyllid o lywodraeth De Affrica yn oes apartheid),[3] a gwasanaethodd yn weithredwr ar fwrdd y felin drafod geidwadol National Center for Public Policy Research. O 1994 hyd 2001 roedd yn un o brif lobiwyr Preston Gates & Ellis, a Greenberg Traurig hyd fis Fawrth 2004.
Plediodd Abramoff yn euog yn Ionawr 2006 i bum cyhuddiad o ffeloniaeth yn ymwneud â sgandal ynghylch lobïo dros gasinos Americanwyr Brodorol, gan gynnwys SunCruz Casinos.[4][5] Cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd mewn carchar ffederal am dwyll post, cynllwynio i lwgrwobrwyo swyddogion cyhoeddus, ac efadu trethi. Cafodd ei garcharu am 43 mis cyn iddo gael ei ryddhau yn Rhagfyr 2010.[6] Wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar, ysgrifennodd hunangofiant Capitol Punishment: The Hard Truth About Washington Corruption From America's Most Notorious Lobbyist (2011).
Bu'r sgandalau yn destun dwy ffilm yn y flwyddyn 2010: y ffilm ddogfen Casino Jack and the United States of Money,[7] a'r ffilm Casino Jack a serenodd Kevin Spacey yn rhan Abramoff.[8][9]